
Amdanom ni
Mae Côr Ger y Ffin yn gôr cymysg gymharol ifanc, ac yn un a gafodd ei ffurfio i raglen realaeth “Codi Canu” i S4C. I hyn roedd angen ffurfio corau newydd, o dan faton “celeb’’ Cymreig, oedd â chyswllt â’r ardal, a dim profiad o arwain côr. Ein “celeb” a’n harweinydd di-brofiad yng nghystadleuaeth Codi Canu ar S4C yn 2010 oedd Mr Stifyn Parri, a’i fentor oedd Mr Geraint Roberts. Mr Stifyn Parry yw’r diddanwr dawnus a sefydlodd y cwmni Mr Producer. Mae Stifyn yn dal i gadw cysylltiad â’r Côr, a bellach Mr. Geraint Roberts yw ein Cyfarwyddwr Cerdd. Dilynodd y rhaglen deledu y darpariaethau oedd eu hangen i bedwar côr oedd newydd eu ffurfio. Uchafbwynt hwn oedd ennill cystadleuaeth Codi Canu a sefydlwyd gan Mr. Owain Arwel Hughes.
Mwynhaodd y Côr y cyfle a’r profiad i’r fath raddau fel y gofynwyd i Mr. Geraint Roberts barhau fel Cyfarwyddwr Cerdd. Erbyn hyn mae gennym raglen gerddorol amrywiol gan gynnwys caneuon Cymreig, Saesneg, a rhai Lladin. Mae y rhan fwyaf wedi eu hysgrifennu yn arbennig i gôr o bedwar llais.
Mae ein rhaglen gydag arddull cerddorol eang ac yn amrywio o waith clasurol corawl, caneuon traddodiadol Cymreig, i gerddoriaeth cyfansoddwyr cyfoes.
Os ydych yn edrych am gôr i berfformio yn eich cyngerdd chi, neu at achlysur arbennig, buasem yn falch o glywed gennych.
Amcanion Y Dyfodol
Mae ein amcanion fel âg sydd wedi roi yn ein cyfansoddiad, yn enwedig:-
· I gynllunio i’r dyfodol a chael amrywiaeth o ganeuon i gyngherddau.
· I gymryd rhan yn achlysurol i godi arian tuag at elusennau, e.e. – Ymchwil Cancr, neu i ddiddori mewn Cartrefi Preswyl yr ardal leol.

Ymunwch â ni
Rydym yn cwrdd bob nos Fawrth yn
Y Stiwt,
Broad Street,
Rhosllannerchrugog
LL14 lRB
7.30 y.h